eisoes yn maethu?

eisoes yn maethu?

Rydych eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth trwy ddod yn ofalwr maeth.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gydag asiantaeth faethu annibynnol, awdurdod lleol o fewn ein rhwydwaith Maethu Cymru neu’n ystyried symud at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Dewch o hyd i’r hyn sydd gan Maethu Cymru Conwy i’w gynnig i chi.

Mae gwasanaethau maethu awdurdod lleol yn cefnogi a gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth, heb wneud elw.

Mum and daughter who is smiling at the camera

y manteision o faethu yn uniongyrchol

Mae sawl mantais ynghlwm â maethu gyda Maethu Cymru Conwy.

Byddwch yn rhan allweddol o dîm lle mae cydweithio â’r plentyn yn greiddiol i bopeth a wnawn.

Rydym yn wasanaeth gwybodus sy’n cynnwys Timau Gofal Plant, Timau Addysg, yr Adran Gyfreithiol, Hyfforddiant a Diogelu a llawer mwy. Mae pob un ohonom yn gweithio yn yr un adeilad, sy’n caniatáu i ni gydweithio’n agos.

Mae pob un ohonom ni yma i gefnogi a gwerthfawrogi ein gofalwyr maeth.

Dad and daughter sitting in their back garden

ffeithiau am faethu yng Nghonwy

Ni yw’r cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc lleol sydd angen gofal maeth.

Mae popeth a wnawn yn lleol - o Fae Colwyn, i Lanrwst, i Benmaenmawr a Bae Cinmel.

Mewn gwirionedd felly, mae hyn yn golygu y gall ein plant a’n pobl ifanc aros yn eu hardal leol, a’u bod yn gallu gweld eu ffrindiau a’u teulu, aros yn eu hysgolion lleol a pharhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau lleol.

 




beth rydym yn ei gynnig yn Maethu Cymru Conwy

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Conwy, byddwch yn derbyn lwfans cynnal i dalu am gostau gofalu am blentyn neu berson ifanc, fel y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud yn amod.

Mae nifer o’n Gofalwyr Maeth yn dewis maethu fel eu gyrfa llawn amser ac felly byddant hefyd yn derbyn ein Taliad Proffesiynol Uwch fel cyflog. Mae’r taliadau hyn yn rhai cyson e.e. ni fydd y taliad yn cael ei atal os nad oes plentyn gyda chi – felly ceir incwm dibynadwy trwy faethu gyda Maethu Cymru Conwy.

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Conwy, byddwch yn cael mynediad at y canlynol:

  • Cardiau Ffit Conwy
  • Cardiau Disgownt Venue Cymru
  • Aelodaeth Rhwydwaith Maethu
  • Care First
  • Mynediad am bris gostyngol i’r Sŵ Fynydd Gymreig
  • Grwpiau Cefnogi a Diwrnodau Gwasanaeth
  • Aelodaeth Cadw
  • Cerdyn 'Max'
  • Disgowntiau yn Zip World
  • Cerdyn Blue Light
  • Lwfansau Penblwyddi a Gwyliau
  • Hawl i Wyliau Blynyddol
  • Lwfans Costau Teithio
  • Eich Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig ar gyfer cefnogaeth barhaus
  • Mynediad at Linell Ddyletswydd 24 awr y dydd
  • Hyfforddiant a Chefnogaeth Cyn Cymeradwyaeth

"Yn fuan ar ôl troi’n bedwar deg, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau trwy asiantaeth. Roedd llawer o’r bobl ifanc yn dod o’r tu allan i’r ardal. Golyga hyn eu bod dan anfantais. Roeddent yn colli cysylltiad â’u ffrindiau, y llefydd oedd yn gyfarwydd iddynt a’u cynefin. Gan fy mod bellach yn maethu gydag awdurdod lleol, mae’r bobl ifanc yn aros yn lleol. Golyga hyn eu bod yn cael aros yn eu cynefin, sydd o gymorth iddynt deimlo’n ddiogel, ac mae’n fwy naturiol o ran ymweliadau, mynediad ac amser gyda’r teulu"
Jo, Gofalwr Maeth, Conwy




camau tuag at drosglwyddo

Bob blwyddyn, mae tua 50 o ofalwyr maeth yn trosglwyddo o asiantaethau maethu masnachol at wasanaeth maethu awdurdod lleol yng Nghymru.

Y cam cyntaf tuag at drosglwyddo atom yw cael sgwrs, ac nid oes unrhyw bwysau arnoch. Rydym ni’n gwybod y gall newid deimlo’n frawychus a dyma pam y byddwn yn eich cefnogi chi gam wrth gam, nes eich bod chi’n hapus eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.



camau tuag at drosglwyddo





ewch i gael eich canllaw trosglwyddo

Lawrlwythwch eich canllaw trosglwyddo

NEU

Cysylltwch isod i dderbyn eich llyfryn.

View from Great Orme, Llandudno

trosglwyddo heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Conwy yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Conwy yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.